Ffurflen

Cais i bleidleisio drwy ddirprwy yng Nghymru ar gyfer gweision y Goron a gweithwyr y British Council

Os na allwch bleidleisio'n bersonol, gall rhywun bleidleisio ar eich rhan. Gallwch ddweud wrtho dros bwy y dylai bleidleisio. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Dogfennau

Manylion

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol

Cofrestrwch erbyn 11:59pm ar 18 Mehefin 2024 er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024.

Pleidleisio o dramor

Os ydych dramor, gallwch bleidleisio:

  • drwy’r post
  • drwy wneud cais i gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)

Rhaid eich bod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio yn y DU cyn i chi allu gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

Pleidleisio drwy’r post

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy’r post yn cyrraedd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Bydd yn cymryd amser i becyn pleidleisio drwy’r post tramor eich cyrraedd ac i chi ddychwelyd y pecyn i’r DU, yn enwedig os yw eich gwasanaethau post lleol yn afreolaidd neu os ydych yn byw ymhell o’r DU.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynghori pobl sy’n byw dramor i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw’n bosibl.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn cyrraedd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol Leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Cyn gwneud cais

Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod ei fod wedi’i gofrestru i bleidleisio a’i fod yn fath o etholiad y caniateir iddo bleidleisio ynddo.

Sut i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Mae ffurflenni gwahanol, yn dibynnu ar y rheswm pam na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r un gywir.

Efallai y gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio.

Ble i anfon eich ffurflen

Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 October 2023 + show all updates
  1. You can now apply online to vote by proxy. The law has changed regarding people who can be proxies. The paper forms have been updated by the Electoral Commission.

  2. If you are registered to vote and want to vote by proxy in the 5 May 2022 elections, you must submit a proxy vote application form that is received by your local Electoral Registration Office before 5pm on Tuesday 26 April 2022.

  3. You can no longer apply to register to vote by proxy for the polls on 6 May 2021. You can still apply for an emergency proxy subject to certain criteria.

  4. Updated to include new forms.

  5. If you are registered to vote and want to vote by proxy in the 6 May 2021 elections, you must submit a proxy vote application form that is received by your local Electoral Registration Office before 5pm on Tuesday 27 April.

  6. Attachments updated.

  7. Forms updated with new data protection guidance.

  8. Information added to explain that it's now too late to apply by poxy for the 3 May elections.

  9. First published.